Skip to content
eBook Charts
US
Y Tir Pell a Cherddi Eraill

Y Tir Pell a Cherddi Eraill

Robert Ap Gwilym Ddu

$6.99

Buy on Amazon View on Apple Books

Prefer it in print? See every format on Amazon →

Price on Apple Books. Amazon’s price may differ.

Read a lot? Try Kindle+ * · Compare subscriptions

Published
Genres
PoetryFiction & Literature

Description

"Pan fyddo'r anadl yn byrhau,

A'r poenau mawrion yn trymhau,

A'r enaid dros y genau mud

Yn dianc i'r tragwyddol fyd;

Gad imi syllu ar dy wedd,

Nes byddwyf yn anghofio'r bedd;

A phrawf o'th gariad dyro im',

Nes byddo marw'n mynd yn ddim."

Robert ap Gwilym Ddu (Robert Williams, 1766-1850) oedd aelod hynaf cylch o feirdd enwog yn Eifionydd yn ystod rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Oherwydd iddo wrthod cystadlu mewn Eisteddfodau, nid enillodd yr un bri â rhai o'i gyfeillion; ond erbyn heddiw cydnabyddir ef fel un o feirdd mwyaf ei oes yn y mesurau caeth.

Enghraifft nodweddiadol o Fardd Gwlad, canodd i'w gyfoedion a'i fro - yn ogystal â'i ddannedd a'i ffon gerdded! - ond roedd hefyd yn emynwr medrus ac yn fardd crefyddol mawr.

Perffeithydd yr englyn Cymreig ac un o feirdd mwyaf y ganrif.

-W. J. Gruffydd